Ty'r Arglwyddi
Mae mesur dadleuol y Llywodraeth i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu rhagor o wrthwynebiad heddiw wrth gael ei drafod yn Nhy’r Arglwyddi.

Mae rhai o’r Democratiaid Rhyddfrydol am weld gwelliannau’n cael eu cyflwyno  i gynlluniau dadleuol yr Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley yr wythnos hon.

Mae’n debyg bod y newidiadau yn cynnwys cael gwared â chynlluniau i gynyddu cystadleuaeth o fewn y GIG.