Bydd Cymdeithas y Meddygon, y BMA yn cynnal pleidlais yn y dyfodol agos i ganfod os ydi meddygon am weithredu yn ddiwydiannol yn erbyn cynlluniau’r llywodraeth i newid telerau eu pensiynau.

Wedi cyfarfod brys barodd saith awr ddoe, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Arbennigwyr y Gymdeithas nad oedd dewis ond cynnal pelidlais.

Ychwanegodd bod angen penderfynu ar natur y gweithredu ond dywedodd y bydd unrhyw weithredu yn lleihau yr effaith a’r niwed i’r cleifion.

“Mae ein brwydr yn erbyn y llwyodraeth nid yn erbyn y cleifion,” meddai.

Mae’r llywodraeth eisiau newid y drefn gan orfodi meddygon i gyfrannu hyd at 14.5% at eu pensiynau, gweithio hyd nes mae nhw’n 68 a chael pensiwn sy’n gyfartaledd o’u cyflog ar hyd eu gyrfa yn hytrach na phensiwn sy’n seileidig ar yr hyn mae nhw’n ei ennill cyn ymddeol.

Dywed y BMA, bod yr aelodau yn flin iawn am y newidiadau ond yn ôl y llywodraeth does dim modd parhau efo’r drefn fel y mae hi.

‘Dyw’r BMA ddim wedi gofyn i’w haelodau bleidleisio dros weithredu diwydiannol ers y saithdegau ond dywed y Gymdeithas bod rhaid ystyried hyn rwan gan nad yw’r llwyodraeth wedi ymateb i’w cais am ragor o drafodaethau.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth San Steffan, Andrew Lansley bod y cynlluniau newydd yn “deg i staff a threthdalwyr.”

“Mae meddygon ag arbenigwyr ymhlith y gweithwyr sy’n ennill y mwyaf o fewn y GIG ac mae nhw wedi elwa yn sywleddol o’r cynllun cyflog terfynol presenol,” meddai.

Ychwaengodd ei bod yn gwbl deg bod y rhai sy’n ennill mwyaf yn cyfrannu mwy at eu pensiynau o’i gymharu a gweddill gweithwyr y GIG.

“Ni ddylai’r rhai sy’n ennill llai dalu’r bil – dyma paham yr ydym wedi gwarchod y rhai ar gyflogau isel,” meddai.