Mae cynrychiolwyr meddygon ym Mhrydain yn cynnal cyfarfod brys heddiw i drafod os ydyn nhw am weithredu yn ddiwydiannol oherwydd cynlluniau’r llywodraeth i newid eu pensiynau.

Mae’r llywodraeth eisiau newid y drefn gan orfodi meddygon i gyfrannu hyd at 14.5% at eu pensiynau, gweithio hyd nes mae nhw’n 68 a chael pensiwn sy’n gyfartaledd o’u cyflog ar hyd eu gyrfa yn hytrach na phensiwn sy’n seileidig ar yr hyn mae nhw’n ei ennill cyn ymddeol.

Dywed Cymdeithas Brydeinig y Meddygon, y BMA, bod yr aelodau yn flin iawn am y newidiadau ond yn ôl y llywodraeth does dim modd parhau efo’r drefn fel y mae hi.

Mae gan y BMA 130,000 o aelodau ym Mhrydain ac fe wnaeth 46,000 o aelodau ymateb i holiadur am y cynlluniau ddechrau’r flwyddyn. O’r rhain roedd dros 30,000 yn dweud eu bod yn barod i weithredu mewn rhyw fodd os nad oedd y llywodraeth yn newid y cynnig.

‘Dyw’r BMA ddim wedi gofyn i’w haelodau bleidleisio dros weithredu diwydiannol ers y saithdegau ond dywed y BMA bod rhaid ystyried hyn rwan gan nad yw’r llwyodraeth wedi ymateb i’w cais am ragor o drafodaethau.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth San Steffan, Andrew Lansley bod y cynlluniau newydd yn “deg i staff a threthdalwyr.”

“Mae meddygon ag arbenigwyr ymhlith y gweithwyr sy’n ennill y mwyaf o fewn y GIG ac mae nhw wedi elwa yn sywleddol o’r cynllun cyflog terfynol presenol,” meddai.

Ychwaengodd ei bod yn gwbl deg bod y rhai sy’n ennill mwyaf yn cyfrannu mwy at eu pensiynau o’i gymharu a gweddill gweithwyr y GIG.

“Ni ddylai’r rhai sy’n ennill llai dalu’r bil – dyma paham yr ydym wedi gwarchod y rhai ar gyflogau isel,” meddai.