Fe laniodd y bocsiwr Dereck Chisora yn Heathrow neithiwr, wedi iddo gael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad gan heddlu’r Almaen yn dilyn ffrae gyda’r cyn-focsiwr David Haye mewn cynhadledd i’r wasg.

Fe ddigwyddodd y ffrae rhwng y ddau  yn dilyn methiant Chisora i gipio beltiau bocsio pwysau trwm Vitali Klitschko nos Sadwrn.

Roedd Haye, oedd yn sylwebu yn yr ornest, wedi herio Chisora yn ystod cynhadledd i’r wasg ac fe wnaeth yntau sylwadau sarhaus am allu bocsio Haye gan arwain  at ffrae rhwng y ddau.

Roedd Chisora yn barod wedi profi cyn y ffeit fod ganddo broblem ddisgyblaeth, wedi iddo roi slap i Vitali Klitschko pan gafodd y ddau eu pwyso cyn  y ffeit.

Yn dilyn y ffeit yn erbyn Klitschko, roedd Chisora wedi ymddangos i wawdio’r ddau frawd Klitschko, wrth ochr y sgwâr bocsio.

Cafodd Chisora ei ryddhau gan yr heddlu yn Munich, a chyrhaeddodd yn ôl i Brydain am 10pm neithiwr.

Heddlu am holi Haye

Mae’r heddlu yn yr Almaen heyfd yn awyddus i siarad gyda David Haye am y digwyddiad, ond mae’r cyn bencampwr WBA y byd wedi diflannu yn dilyn y ffrae, a doedd e ddim yn ei westy bore ddoe.

Roedd Haye yn yr Almaen i sylwebu, ond daeth yn rhan o ornest annisgwyl ei hun.

Roedd hi’n ymddangos bod Haye wedi taflu’r dwrn gyntaf, tra’n dal potel wydr yn ei law.

Aeth yr heddlu i ystafell Haye yn oriau man bore Sul, ond doedd ddim sôn amdano.

“Dyw David Haye ddim yn ei westy, a dyw e ddim yn y maes awyr,” dywedodd Gottfried Schlicht wrth Sky Sports News. “Dyn ni ddim yn gwybod ble mae e.”

“Rydym ni am siarad gyda fe am beth ddigwyddodd neithiwr. Rydym ni am glywed y ddwy ochr o’r stori.”

BBBC yn ymchwilio’r achos

Bydd Bwrdd Rheoli Bocsio Prydeinig (BBBC) yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, dywedodd yr ysgrifennydd Robert Smith.

“Roedd e’n siomedig, ac yn afiach i ddweud y gwir,” dywedodd Robert Smith.

“Bydd yna wrandawiad. Rwy wedi gweld y deunydd fideo bore ’ma, a dyw e ddim yn gwneud unrhyw les i focsio, nag i Brydain.”

Mae Haye wedi ymddeol o fyd bocsio, a does ganddo ddim trwydded bellach, felly does ddim ffordd amlwg gan y BBBC i’w gosbi ef.

Ceir adroddiadau mewn papurau heddiw yn honni  y bydd Chisora yn wynebu gwaharddiad oes rhag bocsio, yn dilyn y digwyddiad.

Byddai’n ymddangos felly mai Tyson Fury yw gobaith mwyaf Prydain am bencampwr pwysau trwm y byd yn y dyfodol agos.