Mae’r bocsiwr Dereck Chisora wedi cael ei ryddhau ar ôl cael ei arestio gan heddlu Munich i’w holi ar ôl iddo fod yn ymladd â David Haye mewn cynhadledd i’r wasg neithiwr.

Roedd y ddau focsiwr pwysau trwm o Brydain wedi ymladd yn ffyrnig ar ôl i Chisora golli i’r pencampwr byd Vitali Klitischko yn Munich.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Munich fod Chisora a’i hyfforddwr Don Charles wedi cael eu harestio ym maes awyr y ddinas a’u cymryd i’r ddalfa i gael eu holi. Dywedodd hefyd fod yr heddlu’n dal i chwilio am Haye, nad oedd yn ei westy pan aethon nhw i’w nôl.

Yn ystod y gynhadledd i’r wasg roedd Chisora wedi gwneud hwyl am ben perfformiad y cyn-bencampwr byd Haye yn erbyn brawd Klitischko, Wladimir, y llynedd, a heriodd ef i ymladd yn ei erbyn.

Mewn golygfeydd dramatig a gafodd eu ffilmio ar fideo, roedd y ddau i’w gweld yng ngyddfau ei gilydd.