David Cameron
Fe fydd Prydain a Ffrainc yn arwyddo cytundeb heddiw i gydweithio wrth adeiladu’r genhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear ar Ynysoedd Prydain.

Bydd y cytundebau, sydd werth mwy na £500 miliwn, yn caniatáu i waith ddechrau ar y gorsafoedd newydd, gan greu 1,500 o swyddi.

Cyhoeddodd gweinidogion Llywodraeth San Steffan ym mis Mehefin eu bod nhw’n bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu rhagor o orsafoedd niwclear erbyn 2025.

Mae Wylfa yn Ynys Môn ymysg yr wyth safle a ddewiswyd.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, sy’n teithio i Baris er mwyn cynnal trafodaethau â’r Arlywydd Nicolas Sarkozy, mai’r cytundebau yw’r “dechrau yn unig”.

Bydd £60 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr economi gan gytundebau o’r fath, gan greu 30,000 o swyddi, meddai.

“Yn ystod ein cyfarfod diweddaraf fe arwyddodd Prydain a Ffrainc gytundeb hanesyddol i gydweithio wrth amddiffyn ein gwledydd,” meddai David Cameron.

“Heddiw rydyn ni’n bwriadu arwyddo cytundeb yr un mor uchelgeisiol ar fater ynni niwclear.

“Rydyn ni’n ddwy o wledydd niwclear mwyaf blaenllaw’r byd, ac yn bwriadu cyfuno ein medrusrwydd er mwyn gwneud ynni niwclear yn saffach a chreu swyddi.

“Fe fydd y cytundebau sy’n cael eu harwyddo heddiw yn creu mwy na 15,000 o swyddi ym Mhrydain.

“Rydw i eisiau i’r mwyafrif o gynnwys y gorsafoedd niwclear rhain gael eu hadeiladu gan gwmnïau o Brydain.

“Fe fyddwn ni hefyd yn dewis y partneriaid a’r dechnoleg sy’n rhoi’r hwb economaidd mwyaf i’r Deyrnas Unedig.”