Abu Qatada
Mae disgwyl i’r clerigwr Mwslemaidd radical Abu Qatada gael ei ryddhau ar fechniaeth heddiw ar ôl cyfnod o chwe blynedd a hanner dan glo.

Ond dywed Llywodraeth San Steffan nad ydyn nhw wedi diystyru’r posibilrwydd o’i anfon yn ôl i Wlad yr Iorddonen, gan anwybyddu penderfyniad  Llys Iawnderau Dynol Ewrop na ddylai gael ei anfon yn ôl yno gan na fyddai’n cael achos teg yn ei wlad ei hun.

Mae disgwyl i Abu Qatada, 51 oed,  gael ei ryddhau heddiw yn ôl i’w gartref yn Llundain, er iddo gael ei ddyfarnu’n euog yn ei absenoldeb yng Ngwlad yr Iorddonen o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth. Dywed yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May bod Qatada yn fygythiad i ddiogelwch y DU.

Mae nifer o Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol wedi galw ar y Llywodraeth i’w anfon yn ôl i’w wlad ei hun.