Caeredin
Mae academydd ym Mhrifysgol Caeredin wedi rhybuddio bod peryg i bron i’r holl dafodieithoedd Gaeleg ddiflannu yn y dyfodol.
Mae Dr Will Lamb yn awgrymu mai dim ond Gaeleg Lewis a De Uist fydd yn goroesi.
Dywedodd mai un rheswm am hyn oedd bod y ddwy dafodiaith yma yn amlwg mewn addysg trwy gyfrwng y Gaeleg.
Roedd 25% o athrawon yn siarad tafodiaith Lewis a 17.5% yn siarad Gaeleg De Uist, meddai. Roedd dipyn llai o athrawon yn siarad tafodieithoedd Skye, Gogledd Uist a Barra.
“Heb newid yr hyn sy’n digwydd yn y cymunedau hyn, bydd mwyafrif y tafodieithoedd Gaeleg wedi diflannu yn ystod y cenedlaethau nesa,” meddai Dr Lamb wrth BBC Alba.