Alex Salmond
Bydd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn cyfarfod ag Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, yng Nghaeredin fory i drafod y refferendwm am annibyniaeth sydd wedi corddi’r dyfroedd rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Prydain.

Y sôn ydy y bydd Alex Salmond yn cyfarfod David Cameron wedyn yn ystod y dyddiau nesaf i drafod y mater ymhellach. Ond dywedodd Mr Salmond nad oes unrhyw ddyddiad wedi ei gadarnhau ar gyfer cyfarfod o’r fath.

Mae Mr Salmond yn awyddus i’r refferendwm gael ei gynnal yn ystod hydref 2014 ond mae Llywodraeth Prydain i’w gweld yn ffafrio cynnal y refferendwm yn gynt na hynny. Mae Llywodraeth yr Alban yn cynnal ymgynghoriad ar y refferendwm ar hyn o bryd, ac wedi derbyn dros 1,500 o ymatebion hyd yn hyn.

Meddai llefarydd ar ran Alex Salmond, “Mae’r cyfarfod Dydd Llun yn gam ymlaen i’w groesawu – ac yn dangos ffordd well o fynd ati gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na’r ymdrech anffodus gan y Prif Weinidog ar ddechrau’r flwyddyn i orfodi amseriad a thermau’r refferendwm o San Steffan.”

Mae Mr Salmond eisoes wedi dweud ei fod am ofyn i’r pleidleiswyr, “Ydych chi’n cytuno y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?”

Mae Llywodraeth yr Alban  hefyd wedi bod yn sôn am y posibilrwydd o gynnwys opsiwn arall ar y papur pleidleisio a fyddai’n cynnwys mwy o bŵer i Holyrood – yr hyn sy’n cael ei alw yn “devo-max” – ond mae San Steffan yn gwrthwynebu hynny. Y farn yn San Steffan ydy y dylai’r refferendwm gynnig dewis clir rhwng annibyniaeth neu aros yn y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Prydain hefyd wedi datgan sawl gwaith nad oes gan Hollyrood yr awdurdod i gynnal refferendwm.