Mae Prif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn galw ar y cyd ar i lywodraeth Prydain sefydlogi pris petrol.

Mae’r datganiad, sydd wedi cael ei arwyddo gan Carwyn Jones, Alex Salmond a Peter Robinson, yn galw am “weithredu brys” ac am ohirio cynnydd yn y dreth sydd i fod i ddod i rym ym mis Ebrill.

“Heddiw, mae arweinwyr Prydain wedi dod ynghyd i alw am fesurau brys i atal dirywiad economaidd,” meddai Alex Salmond, Arweinydd yr SNP, yng nghyfarfod cynta’r flwyddyn o gyd-bwyllgor gweinidogion Prydain.

Mae’r Canghellor, George Osborne, eisoes wedi dod dan bwysau gan yrwyr a gwahanol fudiadau dros y pwnc.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Ffederasiwn y Busnesau Bach ymhlith y mudiadau sy’n galw ar i’r canghellor roi’r gorau i’w gynlluniau i gynyddu treth ar danwydd ym mis Ebrill hyd nes y bydd cynllun i sefydlogi prisiau tanwydd yn cael ei roi ar waith.

Byddai trefn o’r fath yn llawer tecach ar drigolion ardaloedd gwledig, yn ôl y mudiadau.