Ian Paisley
Mae’r Parchedig Ian Paisley yn  parhau yn ddifrifol wael yn yr ysbyty heno ac mae ei deulu wrth ochr ei wely.

Mae cyn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, sy’n 85 oed, yn cael triniaeth yn uned ofal dwys yr ysbyty yn dilyn problemau gyda’i galon.

Mae ei deulu wedi bod yn ymweld ag o yn ysbyty Ulster, Dundonald ger Belfast.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ddydd Sul, 10 niwrnod ar ôl ei bregeth olaf fel gweinidog.

Mae Ian Paisley yn un o sylfaenwyr  Eglwys Bresbyteraidd Rydd Ulster, ac yn gyn Aelod Seneddol gogledd Antrim am bron i 40 mlynedd.

Roedd newydd ddechrau ysgrifennu ei hunangofiant.