Alex Salmond. Prif Weinidog yr Alban
Dim ond bwlch o 5% sydd rhwng y rheini sy’n cefnogi a’r rheini sy’n gwrthwynebu annibyniaeth yn yr Alban, yn ôl pôl piniwn newydd.
Holodd yr arolwg gan The Sunday Times a Real Radio Scotland 1,000 o oedolion.
Roedden nhw wedi gofyn y cwestiwn y mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu ei ofyn yn hydref 2014, sef “A ydych chi’n cytuno y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?”
Roedd 37% o’r rheini a holwyd yn cytuno â’r datganiad, a 42% yn anghytuno.
Serch hynny dywedodd 21% nad oedden nhw wedi dod i benderfyniad.
Ymysg y rheini oed yn dweud eu bod nhw’n gwbl bendant eu barn ar y mater, roedd 47% o blaid annibyniaeth a 53% yn erbyn.
Roedd bron i hanner y rhieni a holwyd yn cytuno y dylid datganoli rhagor o rymoedd i Senedd yr Alban. Roedd chwarter yn anghytuno.
Roedd y rheini a holwyd yn credu y byddai annibyniaeth yn gwneud lles i ddiwylliant, hunan hyder, iechyd, ac addysg y wlad.
Ond roedd mwy yn credu y byddai trethi’n codi pe bai’r Alban yn annibynol nag oedd yn meddwl y byddai trethi yn disgyn.
“Yr economi sy’n atal nifer o bobol rhag cefnogi annibyniaeth ac mae’n debygol y bydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y drafodaeth,” meddai Ivor Knox, o gwmni Panelbase.
“Er bod hyn yn oed y bobol sy’n gwrthwynebu annibyniaeth yn meddwl y bydd yn cael sawl effaith cadarnhaol ar y wlad, mae mwyafrif yn parhau i gredu y bydd yr effaith economaidd yn un negyddol.”
Iechyd ac arian
A fyddai annibyniaeth yn cael effaith cadarnhaol ar ddiwylliant yr Alban?
Byddai – 64%, Na fyddai – 9%
A fyddai annibyniaeth yn cael effaith cadarnhaol ar hunan hyder pobol yr Alban?
Byddai – 59%, na fyddai – 9%
A fyddai annibyniaeth yn cael effaith cadarnhaol ar iechyd pobol yr Alban?
Byddai – 42%, Na fyddai – 17%
A fyddai annibyniaeth yn cael effaith cadarnhaol ar addysg pobol yr Alban?
Byddai – 47%, Na fyddai – 19%
A fyddai eich trethi chi’n codi neu’n disgyn pe bai’r Alban yn wlad annibynol?
Codi – 43%, Disgyn – 11%