Fferm wynt
Mae dros 100 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi ysgrifennu at David Cameron yn galw am dorri’r cymorthdaliadau sydd ar gael ar gyfer ffermydd gwynt.

Maen nhw hefyd wedi galw am roi mwy o rym yn nwylo’r bobol i atal ffermydd gwynt rhag cael eu hadeiladu ger eu cartrefi nhw.

Dywedodd yr ASau yn y llythyr eu bod nhw’n mynegi pryderon cyffredin ynglŷn â faint o arian y trethdalwyr oedd yn mynd i’r sector.

Mae gweinidogion eisoes wedi dweud y bydd cymorthdaliadau i gwmnïoedd sy’n adeiladu ffermydd gwynt yn cael eu torri, ond yn araf iawn.

Bydd galwad yr ASau i gyflymu’r broses yn gur pen i’r Ysgrifennydd Ynni newydd, Ed Davey, a ddyrchafwyd i’r swydd yn dilyn ymddiswyddiad Chris Huhne ddiwedd yr wythnos.

“Yn yr hinsawdd economaidd yma, rydyn ni’n credu nad yw’n ddoeth gofyn i bobol dalu am greu egni drwy ddull aneffeithlon ac ysbeidiol,” meddai’r ASau yn y llythyr.

Mae’r ASau sydd wedi arwyddo’r llythyr yn cynnwys David Davis, Bernard Jenkin, a Nicholas Soames.

Ymatebodd Stryd Downing i’r llythyr gan ddweud fod tyrbinau gwynt yn “gost effeithiol” ac yn rhan o “gymysgedd ffynonellau ynni amrywiol y Deyrnas Unedig”.