Mae’n bosib y bydd nifer yr achosion o ganser yn y Deyrnas Unedig yn cynyddu 30% erbyn 2030, yn ôl arbenigwyr.
Yn ôl Cronfa Ymchwil Canser y Byd fe fydd yna 396,000 o achosion newydd o ganser ym Mhrydain yn 2030, o’i gymharu â 304,000 yn 2008.
Fis diwethaf dywedodd Ymchwil Canser y DU eu bod nhw’n rhagweld y bydd nifer yr achosion yn cynyddu 45% erbyn 2030, i 432,000 y flwyddyn.
Mae yna newyddion gwaeth i Iwerddon, ble mae disgwyl cynnydd o 72% yn nifer yr achosion o ganser.
Cynnydd yn oed y boblogaeth yw un o’r rhesymau sy’n esbonio’r cynnydd, medden nhw ,a hefyd rhagor o or-yfed a gordewdra.
“Rydyn ni’n gwybod fod pobol mewn gwledydd cyfoethocach yng ngorllewin Ewrop yn fwy tebygol o yfed a bwyta gormod,” meddai Dr Rachel Thompson o’r gronfa ymchwil.
“Mae yna dystiolaeth gref fod cysylltiad rhwng y ffactorau hyn, a chanser. Ond fe ellid osgoi nifer o’r achosion newydd drwy newid ffordd o fyw.”
Ychwanegodd fod disgwyl cynnydd 67% yn nifer yr achosion canser yn fyd eang erbyn 2030, o 12.6 miliwn i 21.1 miliwn.