Mae mwy o bensiynwyr yn gweithio – ond mae’r swyddi hynny yn swyddi rhan amser gan fwyaf, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae cyfraddau cyflogaeth dynion dros 65 blwydd oed wedi cynyddu o 10.7% yn faf 2008 i 11.7% ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.

Mae cyfraddau cyflogaeth cyfatebol merched wedi codi o 12.3% i 13.5%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mewn swyddi rhan-amser y mae dau bensiynwr o bob tri sy’n gweithio.

Dywed yr adroddiad hefyd fod dynion a merched yn gweithio am fwy cyn ymddeol.

Mae’r oed cyfartalog y mae dynion yn rhoi’r gorau i weithio wedi codi o 63.8 yn 2004 i 65.5 yn 2009 ac o 61.2 i 62 i ferched.