Fe fydd Gogledd Iwerddon yn codi tâl o 5c am fagiau plastig y flwyddyn nesaf, gan ddilyn esiampl Cymru lle cafodd y tâl ei gyflwyno y llynedd.

Fe fydd y dreth yn codi i 10c yn 2014 pan fydd tâl o 10c am fagiau plastig mwy trwchus hefyd yn cael ei gyflwyno, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd yn Stormont, Alex Attwood.

Mae na dreth debyg eisoes mewn grym yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Dywedodd Alex Attwood eu bod nhw’n gosod y dreth yn 5c yn y flwyddyn gyntaf er mwyn rhoi cyfle i gwsmeriaid ddod i arfer â’r syniad.

“Does dim dwywaith bod bagiau plastig yn bla ar yr amgylchedd,” meddai Alex Attwood.

Dywedodd bod tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos bod codi treth yn ffordd syml ac effeithiol o leihau’r defnydd o fagiau plastig.

Fe fydd yn rhaid i Alex Attwood gael sêl bendith Senedd Gogledd Iwerddon cyn i’r cynlluniau ddod i rym ym mis Ebrill 2013.