Mae Prif Weithredwr banc RBS wedi ildio i bwysau cynyddol ac wedi penderfynu na fydd yn derbyn taliad bonws gwerth bron i £1 miliwn.

Fe gyhoeddodd RBS yn hwyr neithiwr na fyddai Stephen Hester yn derbyn 3.6 miliwn o gyfranddaliadsau gwerth £963,000.

Roedd y Blaid Lafur wedi galw am gynnal pleidlais ar y mater.

Mae’r bonws wedi bod yn embaras i’r Llywodraeth ar ôl i David Cameron addo y byddai’n mynd i’r afael â chyflogau uchel i benaethiaid banciau a chwmniau.

Dywedodd Maer Llundain Boris Johnson ei bod hi’n “syfrdanol” bod banc, sydd â chyfran helaeth wedi ei wladoli, yn talu bonws mor uchel.

‘Gwneud y peth iawn’

Dywedodd y Canghellor George Osborne bod y penderfyniad i’w groesawu “ac yn caniatau i Stephen  Hester ganolbwyntio ar y dasg o gael biliynau o bunnoedd o arian y trethdalwr, gafodd ei roi i RBS, yn ôl.”

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband bod Stephen Hester “wedi gwneud y peth iawn.”