Ian Duncan-Smith
Buasai unrhyw ymdrech gan y llywodraeth i atal caniatau bonws o bron i £1m o bunnau i bennaeth banc RBS yn achosi anrhefn llwyr yn ôl Gweinidog Gwaith a Phensiynnau’r llywodraeth, Ian Duncan-Smith.

Wrth gael ei holi ar Raglen Andrew Marr ar y BBC dywedodd bod y llywodraeth wedi ei gwneud yn “berffaith glir’ i fwrdd RBS y dylid ystyried pryderon y cyhoedd ac y dylid tynnu’r bonws yn ôl os na fydd Stephen Hester yn perfformio yn dda.

Mae Mr Hester i fod i gael bonws o werth bron i £1m o bunnau mewn cyfranddaliadau yn 2014 a dywedodd Mr Duncan-Smith bod ei gytundeb yn datgan mai bwrdd y banc sydd i benderfynu ac na ddylai gweinidogion fusnesu a dweud wrthyn nhw beth i’w wneud.

Os nad oedd y bwrdd yn fodlon atal y bonws meddai, yr unig opsiwn fyddai i’r bwrdd ymddiswyddo gan achosi anrhefn llwyr yn y sector bancio.

Mae’r mwyafrif o gyfranddaliadau’r banc yn eiddo i’r trethdalwyr a dywedodd Mr Ducan-Smith bod yn rhaid i’r llywodraeth weld y banc yn datblygu er mwyn ei werthu ac ad-dalu’r trethdalwyr.

Ychwanegodd mai mater i Mr Hester fel unigolyn yw penderfynu p’run ai derbyn y bonws ai pheidio.

“Fel aelod o’r llywodraeth, does gen i ddim barn gyfansawdd ar y mater ond rhaid i mi ddweud na fuasai neb hapusach na’r llywodraeth petae yn gwneud hynny. Ond mater iddo ef yw hynny,” meddai.

Mae Cadeirydd RBS, Syr Philip Hampton eisoes wedi gwrthod gwobr o werth £1.4m o gyfranddaliadau yr oedd i fod i’w derbyn ym mis Chwefror.

Yn y cyfamser dengys arolwg barn gan ICM bod y mwyafrif llethol o bobl eisiau gweld pennaethiaid busnes yn ennill llai na £1m y flwyddyn.

Roedd 70% o’r 2000 o bobl holwyd o blaid creu trefn sy’n galluogi cyfranddalwyr i atal pecynnau cyflog i bennaethiaid.