Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio gan swyddogion  o ‘Weithrediad Elvenden’ sy’n ymchwilio i honniadau bod newyddiadurwyr wedi talu i blismyn am wybodaeth.

Cafodd y pedwar dyn rhwng 29 a 46 oed eu harestio yn eu cartefi ac wrth eu gwaith yn Llundain ac Essex rhwng 6 ac 8 bore yma.

Mae’r gwr 29 oed yn blismon ac yn gweithio i Uned Plismona Tiriogaethol Heddlu’r Metropolitan.

Roedd ar ddyletswydd mewn swyddfa ynghanol y ddinas pan gafodd ei arestio ar amheuaeth o lygredigaeth o dan amodau Deddf Atal Llygredigaeth 1906, camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio yng nghyd- destun y ddau drosedd.

Cafodd dau ddyn arall 48 a 56 oed eu harestio yn eu cartrefi yn Essex, a’r olaf, dyn 48 oed ei arestio yn ei gartref yng ngogledd Llundain.

Mae’r tri yn cael ei holi ar amheuaeth o lygredigaeth, cynorthwyo ag annog camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio ynghyd- destun y troseddau.