Archesgob Sentamu
Mae Archesgob Efrog wedi dweud y bydd y Prif Weinidog David Cameron yn ymddwyn fel ‘unben’ os y bydd y llywodraeth yn caniatau i uniad rhwng dau o’r un rhyw gael ei alw’n briodas.

Bydd llywodraeth San Steffan yn cychwyn ymgynghori ar y mater ym mis Mawrth. Daeth ymgynghoriad cyffelyb gan lywodraeth yr Alban i ben ddiwedd Rhagfyr.

Mewn cyfweliad ym mhapur y Daily Telgraph dywed Dr John Sentamu mai dim ond uniad rhwng dyn a dynes ellid ei alw’n briodas yng ngwir ystyr y gair gan ychwanegu mai nid lle’r wladwriaeth yw diffinio priodas sydd wedi esblygu yn draddodiadol a hanesyddol.

“Rydyn ni wedi gweld unbennaethiaid yn gwneud hyn mewn cyd-destunau gwahanol a dwi ddim eisiau gweld ail ddiffinio strwythurau cymdeithasol clir sydd wedi bod mewn bodolaeth ers amser maith am fod y wladwriaeth yn credu yn wahanol” meddai.

Dywedodd nad oedd yr Eglwys yn gwrthwynebu cynlluniau i ganiatau i seremoniau partneriaethau sifil rhwng dau berson o’r un rhyw gael eu cynnal mewn addoldai os yw’r enwad crefyddol yn caniatau ond ychwanegodd bod galw’r partneriaethau yma yn ‘briodasau’ yn ymdrech i newid yr iaith Saesneg.

“Dyw hyn ddim yn ymdrech i leihau, gondemnio, beirniadu na israddio unrhyw berthynas rhwng unigolion o’r un rhyw oherwydd nid dyma graidd y ddadl” meddai.

Yn yr un cyfweliad dywedodd Dr Sentamu hefyd nad yw’r Eglwys Anglicaniadd yn denu a chadw digon o addolwyr croenddu a dosbarth gweithiol croenwyn a bod yr eglwys ar ei cholled oherwydd hynny.