Alex Salmond
Fe fydd Alex Salmond yn amlinellu ei gynlluniau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban heddiw.

Fe fydd Prif Weinidog yr Alban yn lansio ei ymgynghoriad am refferendwm yn Holyrood brynhawn ma.

Mae Llywodraeth SNP yr Alban eisoes wedi cyhoeddi mai Hydref 2014 yw’r dyddiad mae nhw wedi ei ddewis i gynnal y refferendwm.