Y Canghellor George Osborne
Mae dyled Llywodraeth Prydain wedi cyrraedd £1 triliwn am y tro cynaf erioed, er gwaetha’r ffaith bod  benthyciadau yn is na’r disgwyl ym mis Rhagfyr, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw.

Roedd benthyciadau’r sector cyhoeddus  wedi gostwng £2.2 biliwn i £13.7 biliwn ym mis Rhagfyr. Roedd y Ddinas wedi amcangyfrif gostyngiad i £14.9 biliwn.

Serch hynny fe gynyddodd y ddyled i £1,003.9 biliwn neu 64.2% o’r Cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP),  o £883 biliwn flwyddyn yn ôl, ei uchaf ers i gofnodion gael eu cadw ym 1993.

Ond mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne gyrraedd ei darged i ostwng benthyciadau i  £127 biliwn yn y flwyddyn ariannol er gwaetha pryderon fod dirwasgiad ar y gorwel.

Roedd y Llywodraeth wedi benthyg cyfanswm o £103.3 biliwn rhwng mis Ebrill a Rhagfyr, sef £11.3 biliwn yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod y ffigurau’n dangos bod y Llywodraeth yn symud i’r cyfeiriad cywir.