Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi dod i gytundeb 10 mlynedd a fydd yn diogelu dyfodol Swyddfa’r Post ac  yn rhoi sicrwydd i bostfeistri.

Fe fydd y trefniadau hir dymor rhwng Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol yn cael eu cwblhau cyn i’r ddau gael eu gwahanu o dan gynlluniau dadleuol y Llywodraeth i’w preifateiddio.

Mae is-bostfeistri wedi croesawu’r cyhoeddiad ond dywed Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ei bod yn ddiwedd cyfnod i’r gwasanaeth post fel corff cyhoeddus.

Dywedodd Moya Greene, prif weithredwr Grŵp y Post Brenhinol y byddai’r cytundeb yn gosod sylfaen gadarn i ddyfodol hir-dymor  Swyddfa’r Post ac yn sicrhau bod cwsmeriaid yn dal i allu cael mynediad i wasanaethau post yng nghanghennau Swyddfa’r Post ar draws y DU.

“Mae’r Post Brenhinol a Swyddfa’r Post wedi dod i gytundeb sydd o fudd i’n cwsmeriaid a’r ddau fusnes,” meddai.