Mae tua 1,000 o swyddi yn y fantol heddiw ar ôl i un o burfeydd olew mwya’r DU gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Roedd purfa Coryton yn Essex ­– sy’n cyflenwi 20% o’r tanwydd i Lundain a’r De Ddwyrain – wedi cau ddoe ac wedi dweud wrth y staff nad oeddan nhw’n siŵr pryd fyddai’r cyflenwadau yn ailddechrau.

Daeth y cyhoeddiad wrth i berchnogion y purfa Petroplus, ddweud bod trafodaethau gyda’u benthycwyr wedi dod i ben a’u bod wedi penodi gweinyddwyr ar gyfer y safle yn y DU.

Dywedodd Linda McCulloch o undeb Unite bod mil o swyddi yn y fantol ond roedd yr undeb yn gobeithio y byddai’r perchnogion a’r Llywodraeth yn cymryd camau i ddiogelu’r busnes.

Mae na saith o burfeydd olew eraill yn y DU – gan gynnwys Aberdaugleddau a Phenfro yn Sir Benfro.

Dywedodd Petroplus y bydd yn gwneud cais i fod yn fethdalwr. Roedd Petroplus wedi prynu’r burfa olew yn Coryton gan BP ym mis Mehefin 2007.