Fe gyhoeddodd McDonald’s y bydd yn creu o leia 2,500 o swyddi newydd yn  y DU eleni.

Dywed y cwmni byrgyrs  y bydd mwy na hanner y swyddi newydd yn cael eu rhoi i bobol ifanc a thua 30% i bobl sy’n dechrau gweithio am y tro cyntaf.

Mae David Cameron a Nick Clegg wedi croesawu’r cyhoeddiad ac wedi canmol y cwmni am gynnig hyfforddiant a chyfleoedd i’w staff.

Fe fydd y swyddi newydd yn ychwanegu at y 13,500 o swyddi sydd wedi cael eu creu gan McDonald’s dros y tair blynedd diwethaf. Fe fydd nifer y gweithlu yn y DU yn cod ii 90,000.