Iain Duncan Smith
Roedd na ergyd i’r Llywodraeth neithiwr ar ôl iddi gael ei threchu yn Nhŷ’r Arglwyddi pan bleidleisiodd arglwyddi o blaid gwelliant i’w chynlluniau i ddiwygio budd-daliadau lles.

Mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith am gyfyngu budd-daliadau lles i gyfanswm o £26,000 y flwyddyn i bob teulu. Mae’n honni y bydd yn arbed oddeutu £600 miliwn.

Neithiwr fe bleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi o blaid gwelliant a fyddai’n gwrthod cynnwys budd-dal plant.

Ond mae’r Llywodraeth wedi mynnu y bydd yn parhau a’i chynlluniau i gyflwyno’r newidiadau, er gwaetha’r gwrthwynebiad gan yr Arglwyddi, ac esgobion Eglwys Loegr.