Jack Straw
Mae disgwyl y bydd y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Jack Straw, yn dod dan bwysau heddiw i gyfiawnhau mynd i ryfel yn Irac.

Mae wedi cael ei alw’n ôl i roi tystiolaeth gerbron Ymchwiliad Chilcot am y trydydd tro wrth i’r ymchwiliad nesu at y terfyn.

Fe fydd yn debyg o gael ei holi am ei benderfyniad i anwybyddu cyngor cyfreithiol gan rai o brif swyddogion yr Adran Dramor – roedd y rheiny wedi dweud ei bod yn anghyfreithlon mynd i ryfel heb gefnogaeth benodol y Cenhedloedd Unedig.

Mewn gwrandawiadau cynt, roedd Jack Straw hefyd wedi dweud mai yn “anfoddog” y cytunodd â’r penderfyniad i fynd i ryfel yn erbyn llywodraeth Saddam Hussein.

Blair hefyd

Y mis diwetha’, fe gafodd y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, ei alw’n ôl o flaen yr ymchwiliad i gael ei holi am y cyngor cyfreithiol a gafodd yntau.

Ar un adeg, roedd y Twrnai Cyffredinol, yr Arglwydd Goldsmith, wedi dweud bod rhyfel yn anghyfreithlon, cyn newid ei feddwl wedyn.

Mae posibilrwydd y bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, Syr John Chilcot, yn rhoi awgrym o ddyddiad cyhoeddi ei adroddiad.