Mae rhieni 24 o fabanod yn disgwyl cael clywed a yw eu plant nhw wedi dal haint sydd eisoes wedi lladd tri baban arall mewn ysbyty yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r rheini wedi cael gwybod na fydd canlyniadau’r profion ar gael nes dydd Llun, wrth i weithwyr Ysbyty Mamolaeth Frenhinol Belfast sgwrio’r adeilad.

Cadarnhaodd Ymddiriedolaeth Iechyd Belfast bod pob un o’r plant allai fod wedi eu heintio gan y bacteria pseudomonas wedi eu profi.

Yn ogystal â’r tri baban sydd wedi marw mae pedwar arall eisoes wedi dal yr haint. Mae dau wedi goroesi, un yn cael ei drin, ac un arall wedi marw o achos gwahanol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd fod y babi sy’n derbyn triniaeth wedi ymateb yn dda.

Mae pseudomonas yn effeithio ar y frest, y gwaed a’r llwybr wrinol.

Gorfodwyd i ddwy fam feichiog deithio dros 100 milltir i Ddulyn er mwyn cael eu babanod, o ganlyniad i ymlediad y bacteria.