Mae’r undebau meddygol wedi datgan eu gwrthwynebiad i fesur iechyd y Llywodraeth gan ddweud y bydd yn “peryglu’r gofal i gleifion”.

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) a Choleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) wedi galw ar y Llywodraeth i sgrapio’r mesur.

Roedd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) hefyd wedi gwrthwynebu’r mesur ym mis Rhagfyr.

Yn ôl y RCN, mae na “bryderon dybryd” sydd heb gael eu hystyried wrth i’r mesur gael ei drafod yn y Senedd.

Mae’r undebau’n honni yn bydd y mesur yn bygwth y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Prif Weithredwr y RCN, Dr Peter Carter, bod y Llywodraeth yn “bwrw mlaen gyda’r diwygiadau i’r GIG heb gymryd pryderon y nyrsys a meddygon i ystyriaeth.”

Dywedodd Dr Carter bod y diwygiadau yn digwydd mewn cyfnod pan mae’r GIG yn ceisio arbed £20 biliwn erbyn 2014.

Yn ôl gwaith ymchwil gan y RCN mae 48,000 o swyddi’r GIG yn Lloegr wedi diflannu neu am gael eu torri.

Ychwanegodd Dr Carter: “Does dim dwywaith bod gofal cleifion yn cael ei roi mewn perygl.”

Mae’r RCM hefyd wedi tynnu sylw at gost y mesur gan ddweud bod arbenigwyr wedi amcangyfrif y bydd i diwygiadau yn costio rhwng £2biliwn a £3 biliwn yn ychwanegol i’r GIG.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley wedi amddiffyn y mesur dadleuol bore ma gan ddweud bod gwrthwynebiad yr undebau yn ymwneud a chyflogau a phensiynau yn hytrach na gwrthwynebiad i’r newidiadau.