Michael Gove
Fe fydd y gost o ddarparu copi o Feibl y Brenin Iago i bob ysgol yn Lloegr i nodi 400 mlynedd ers ei gyfieithu, oddeutu £377,000, yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Michael Gove.

Dywedodd Michael Gove ei fod yn cynnal trafodaethau gyda nifer o unigolion a sefydliadau a “allai rannu rhywfaint o’r baich” ond y trethdalwr fydd yn talu’r rhan fwyaf o’r gost, meddai.

Yn ôl Michael Gove mae na gytundeb wedi cael ei wneud gyda chyhoeddwyr y Beibl i ddarparu copiau ar “gost isel”.

Dywed yr Ysgrifennydd Addysg bod rhoi copi o’r Beibl yn ffordd “bwerus” o dathlu pwysigrwydd hanesyddol yr achlysur.

Daw ei sylwadau ar ôl i bapur The Guardian honni bod y cynllun yn wynebu trafferthion am fod Michael Gove wedi cael gwybod bod yn rhaid iddo ddod o hyd i arian preifat ar gyfer y cynllun.

Yn ôl rhai ffynonellau, roedd David Cameron wedi dweud wrth Michael Gove ei fod yn cefnogi’r syniad, ond byddai’n rhai iddo osgoi defnyddio arian y trethdalwr i ariannu’r cynllun.