Mae cadeirydd yr ymchwiliad a arweiniodd at gynnal refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad wedi cael ei benodi ar banel arbenigwyr i ystyried rôl Aelodau Seneddol o Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn Nhŷ’r Cyffredin yn y dyfodol.

Bydd Syr Emyr Jones Parry yn cynrychioli Cymru ar y panel o chwech fydd yn dechrau ar eu hymchwiliad i ‘Gwestiwn Gorllewin Lothian’ fis nesaf.

Mae’r penodiad wedi cael ei groesawu gan Blaid Cymru, sy’n dweud fod “dealltwriaeth Syr Emyr o Gymru o fewn cyd-destun cyfansoddiadol y DU” yn gyfraniad pwysig at drafodaeth y Comisiwn.

Y panel a’u gwaith

Rôl y panel fydd ystyried a oes gan ASau’r gwledydd lle mae datganoli hawl i bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â Lloegr yn Nhŷ’r Cyffredin.

Bydd Syr Emyr, cyn-lysgennad y DU yn y Cenhedloedd Unedig a chadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, yn ymuno â chynrychiolwyr o’r ddwy wlad fach arall a thri o Loegr.

Mae’r Gweinidog dros Ddiwygio Cyfansoddiadol, Mark Harper, wedi dweud y bydd cylch gorchwyl y Comisiwn yn cael ei gyfyngu i’r modd y mae Tŷ’r Cyffredin wedi datganoli yn delio gyda deddfau sydd heb fod yn effeithio bob rhan o Brydain.

Fydd y Comisiwn ddim yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyllido rhwng y gwledydd datganoledig, nac yn ystyried y cydbwysedd rhwng Aelodau Seneddol Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn Nhŷ’r Cyffredin.

Codi amheuon

Ond, er fod ei blaid yn croesawu penodiad Syr Emyr, mae un o ASau Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi codi amheuon am bwerau’r panel.

Mae eu cylch gorchwyl, meddai, yn eu hatal rhag dod i’r canlyniad gorau posib, sef sefydlu Senedd ar wahân ar gyfer Lloegr, yn ogystal â chreu Senedd i Gernyw.

Mae disgwyl i adroddiad terfynol y Comisiwn gael ei gyflwyno erbyn diwedd y sesiwn seneddol nesa’.