Ed Balls
Mae’r Blaid Lafur yn wynebu “trychineb” yn yr etholiad nesaf, oherwydd ei chefnogaeth i’r penderfyniad  i rewi cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus – dyna rybudd arweinydd undeb Unite heddiw.

Roedd  Canghellor yr wrthblaid Ed Balls wedi cythruddo’r undebau ar ôl cyhoeddi mewn cynhadledd bod y Blaid Lafur yn derbyn  penderfyniad y Llywodraeth i rewi cyflogau miliynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus.

Dywed Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, bod ei sylwadau yn mynd yn groes i filiynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus.