Mae’r Prif Weinidog wedi wfftio galwadau un o’i weinidogion ei hun heddiw y dylai arian cyhoeddus gael ei ddefnyddio i roi llong newydd i’r Frenhines i nodi dathliad ei Jiwbili Deiamwnt.

Wrth ymateb i alwadau’r Gweinidog Addysg, Michael Gove, am ddefnyddio arian y trethdalwr i dalu am y llong newydd, dywedodd David Cameron na fyddai’r syniad yn addas.

Mae’r galwadau wedi cael eu beirniadu’n llym gan y gwrthbleidiau ar draws Cymru a Lloegr, ac mae hi bellach yn ymddangos fod y Ceidwadwyr eu hunain yn ceisio ymbellhau oddi wrth sylwadau eu Gweinidog Addysg.

Dywedodd llefarydd swyddogol David Cameron y prynhawn yma nad oedd y Prif Weinidog yn credu y byddai’n “addas” i wario arian y trethdalwr ar long newydd, ar adeg o doriadau.

Roedd Michael Gove wedi awgrymu mewn llythyr y byddai’r rhodd – a fyddai’n costio oddeutu  £60 miliwn – yn ffordd dda o ddathlu’r digwyddiad, ar ben y partion a’r gala sydd eisoes wedi eu trefnu.

Ond heddiw, dywedodd llefarydd y Prif Weinidog fod “y sefyllfa economaidd anodd a’r adnoddau prin yn golygu na fyddai hyn yn ddefnydd addas o arian cyhoeddus ar hyn o bryd.”

Mae Michael Gove wedi cael ei gyhuddo o fod wedi colli gafael ar farn y bobol, ac mae Plaid Cymru wedi dweud fod awgrym yr Ysgrifennydd Addysg yn angrhedadwy.

“Mae hyn yn anhygoel,” meddai AC Plaid Cymru, Bethan Jenkins wrth Golwg360.

“Bob tro mae Llywodraeth San Steffan yn mynd i’r afael â gwasanaethau ar gyfer y bobol sy’n ariannu’r gwasanaethau hynny – sef y trethdalwyr – maen nhw’n chwilio am atebion yn y sector preifat.

“Ac eto, does gan Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, ddim problem o gwbwl wrth roi arian cyhoeddus ar gyfer rhywbeth na fydd yn helpu’r trethdalwyr yng Nghymru na Phrydain o gwbwl.

“Mae Michael Gove wedi ei ynysu’n llwyr oddi wrth y farn gyhoeddus,” meddai Bethan Jenkins.