Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Mae trafodaethau ynghylch refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn debyg o gychwyn rhwng Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, ac Alex Salmond yng Nghaeredin yr wythnos yma.

Wrth wahodd prif weinidog yr Alban i cychwyn trafod, dywed Michael Moore fod llywodraeth Prydain yn awyddus i senedd yr Alban gael “y pwerau cyfreithiol i gynnal refferendwm teg a diamwys.”

Ei obaith, meddai, yw y byddan nhw gallu cyfarfod ddydd Iau.

Daw’r gwahoddiad ar ddiwedd wythnos o wrthdaro rhwng llywodraethau’r Alban a Phrydain, ac ar ôl i Alex Salmond ddweud y byddai’n barod i gyfarfod y David Cameraon yng Nghaeredin neu Lundain neu unrhyw le arall i drafod y ffordd ymlaen.

Ymgynghori

Dywed llywodraeth Prydain mai Ysgrifennydd yr Alban a ddylai gychwyn yr ymgynghori ar y refferendwm gydag Alex Salmond.

“Dw i wedi siarad gyda Phrif Weinidog yr Alban ac wedi gofyn am gyfarfod ac wedi ysgrifennu ato,” meddai Michael Moore.

“Ro’n i’n falch o’i glywed yn awgrymu trafodaethau gyda llywodraeth Prydain ac mae arna’ i eisau inni gyfarfod yng Nghaeredin yr wythnos yma i gychwyn arni.

“Mae arnon ni eisiau i’r refferendwm yma gael ei wneud yn yr Alban, ac fe ddylen ni ddechrau’r wythnos yma ym mhrifddinas y wlad.”

‘Cyfreithlon a diamwys’

Ychwanegodd: “Mae yna broblemau cyfreithiol gwirioneddol sydd angen eu datrys a dw i’n gobeithio’n bod ni i gyd yn rhannu’r awydd am refferendwm cyfreithlon, teg a diamwys.”

Fy fyddai cynlluniau llywodraeth San Steffan yn golygu cynnal refferendwm o fewn 18 mis ar gwestiwn ie neu na a ddylai’r Alban ddod yn annibynnol ar y Deyrnas Unedig. Does dim dyddiad wedi ei awgrymu eto er y gallai gweinidogion Llundain osod dedlein ar ôl i’r ymgynghori ddod i ben ar Fawrth 9.

Mae ar lywodraeth yr Alban, fodd bynnag, eisiau gohirio’r bleidlais tan hydref 2014 a chadw’r posibilrwydd yn agored am drydydd cwestiwn ar y papur pleidleisio, sef y dewis o ‘devo-max’, a fyddai’n rhoi mwy o ryddid i’r Alban ar faterion ariannol ond yn ei chadw’n rhan o’r Undeb.