Mae unigrwydd yn fygythiad yr un mor fawr i iechyd pobol a gordewdra ac ysmygu, cyhoeddodd cymdeithas elusennol heddiw.

Daw’r rhybudd wrth i bum elusen ymuno gyda’i gilydd er mwyn lansio’r Ymgyrch i Ddod ag Unigrwydd i Ben.

Mae angen i ddoctoriaid sylweddoli fod yna gysylltiad cryf rhwng unigrwydd ac iechyd gwael, meddai’r ymgyrchwyr.

Elusennau Age UK, Counsel And Care, Independent Age ac WRVS yw’r elusennau sy’n rhan o’r ymgyrch.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd ganddyn nhw heddiw yn galw am godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag “arswyd” unigrwydd a’i “effaith dinistriol” ar yr henoed.

Yn ôl arolwg YouGov sy’n rhan o’r adroddiad mae llai nag un ym mhob tri o weithwyr iechyd yn gwybod bod unigrwydd yn cael effaith ar iechyd pobol.

“Mae unigrwydd yn rhywbeth sy’n effeithio ar bawb ond mae pobol hŷn yn fwy tebygol o golli ffrindiau a theulu, a cholli’r gallu i adael y cartref,” meddai Andrew Barnett o’r ymgyrch.

“Mae angen ystyried yr effaith emosiynol a seicolegol ar y bobol hŷn yn ein cymunedau.”

Yn ôl yr adroddiad mae un ymhob 10 o bobol hŷn yn teimlo yn unig.