Tŷ’r Arglwyddi
Mae pwysau ar Lywodraeth San Steffan i roi’r gorau i’w hymdrechion i gyflwyno newidiadau i’r system les heddiw, ar ôl cael eu trechu yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae’r cynlluniau i gyfyngu ar lwfansau cyflogaeth a chymorth sy’n effeithio ar ddioddefwyr canser a’r anabl wedi cael eu gwrthod gan Arglwyddi wrth iddyn nhw ystyried y Mesur Dwygio Lles.

Fe wrthododd Dŷ’r Arglwyddi y cynnig i gyfyngu gallu pobol i hawlio’r lwfansau cyflogaeth a chymorth i  flwyddyn.

Mae Llafur wedi dweud bod y Llywodraeth Glymblaid wedi ei threchu am geisio “croesi ffin sylfaenol yr hyn sy’n weddus ym Mhrydain,” ac wedi annog gweinidogion i beidio trio ail-gyflwyno’r mesurau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Llywodraeth San Steffan eu trechu o 234 pleidlais i 186, sef mwyafrif o 48.

Cytunodd yr Arglwyddi y dylid newid y cyfyngiad o un flwyddyn, a gofyn i’r Llywodraeth benodi cyfyngiad oedd dim llai na dwy flynedd.

Dywedodd yr arbenigwr meddygol, yr Arglwydd Patel, sy’n aelod annibynnol o’r Arglwyddi, ei fod yn “cydymdeimlo gyda’r angen i dorri’r diffyg ariannol, ond dwi’n cydymdeimlo’n fawr gydag angen pobol sal a bregus i beidio cael eu gorfodi i ddelio â rhywbeth fydd yn gwneud eu bywydau hyd yn oed yn fwy diflas.”

Ond dywedodd y Gweinidog dros Ddiwygio Lles, yr Arglwydd Freud, y gallai codi’r cyfyngiad amser o flwyddyn i ddwy flynedd gostio £1.6 biliwn dros bum mlynedd.

Mae’r Gweinidog Cyflogaeth, Chris Grayling, wedi dweud heddiw y bydd y Llywodraeth yn ceisio’u gorau i wyrdroi cynigion yr Arglwyddi pan fydd y mesur yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin.

Dywedodd wrth y rhaglen Today, ar BBC Radio 4 bore ’ma fod yr hinsawdd economaidd yn golygu bod yn rhaid “torri cost y wladwriaeth les. Mae’n rhaid i ni gymryd rhai penderfyniadau anodd.”