Fe ddylai meddygon gael yr hawl i helpu pobl sy’n derfynol wael i ddod â diwedd i’w bywyd, yn ôl adroddiad.

Gallai oedolion sydd â llai na blwyddyn i fyw gael y cyfle i ofyn i’w meddyg am feddyginiaeth a fyddai’n dod â’u bywyd i ben, meddai’r comisiwn sydd o blaid yr hawl i farw.

Ond fe fyddai’n rhaid cael rheolau diogelwch llym mewn lle er mwyn diogelu’r rhai sydd ddim â’r gallu i wneud y penderfyniad dros eu hunain, neu sy’n dioddef o iselder, neu dan bwysau gan deulu neu ffrindiau.

Dywed y Comisiwn, sy’n cael ei gadeirio gan y cyn arglwydd ganghellor Arglwydd Falconer, y byddai’n rhaid i’r person sy’n derfynol wael allu cymryd y feddyginiaeth eu hunain, fel arwydd clir bod y weithred yn un gwirfoddol.

Ond mae’r cynigion wedi cythruddo ymgyrchwyr yn erbyn newid y gyfraith sy’n rhybuddio y gallai’r gynyddu’r pwysau ar bobl fregus i ddod â diwedd i’w bywyd oherwydd eu bod yn pryderu y byddan nhw’n faich ar eraill. Fe allai arwain at hyd at 13,000 o farwolaethau’r flwyddyn, meddai’r grŵp ymgyrchu Care not Killing.

Ym mis Chwefror 2010, cafodd  canllawiau newydd eu cyflwyno ar gyfer erlynwyr mewn achosion o hunanladdiad gyda chymorth.  Mae’n golygu ei bod yn annhebygol  y byddai rhywun sydd wedi helpu person i ddod â diwedd i’w bywyd yn wynebu cyhuddiad troseddol. Ond mae hunanladdiad gyda chymorth yn parhau yn drosedd yng Nghymru a Lloegr ac fe fydd penderfyniadau ynglŷn â erlyn unigolion yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.

Mae’r comisiwn wedi galw ar y Senedd i ystyried datblygu fframwaith cyfreithiol newydd gan ddweud bod y system bresennol yn annigonol.