Cafodd swyddogion yr heddlu orchymyn heddiw i osgoi “fflyrtio” gyda newyddiadurwyr a derbyn alcohol ganddyn nhw.

Mae Elizabeth Filkin, cyn gomisiynydd safonau yn y senedd, wedi amlinellu fframwaith newydd ar gyfer swyddogion sy’n dod i gysylltiad â newyddiadurwyr.

Yn y canllawiau ar gyfer Scotland Yard, mae swyddogion yn cael eu hannog i gadw cofnodion o unrhyw sgyrsiau mae nhw’n ei gael gyda newyddiadurwyr.

Daw’r adolygiad yn sgil yr ymchwiliad i’r helynt hacio ffonau lle roedd honiadau bod rhai newyddiadurwyr wedi talu swyddogion yr heddlu am wybodaeth.

Mae’r adroddiad yn annog swyddogion i osgoi sesiynau yfed yn hwyr gyda’r nos, “a photel arall o win amser cinio – tactegau sy’n cael eu defnyddio gan y cyfryngau i wneud i chi agor eich ceg.”

Mae’r Comisiynydd Bernard Hogan-Howe yn croesawu’r adroddiad gan ddweud: “Mae’n rhaid i ni fod yn agored ynglyn â’n cysylltiad ni gyda’r cyfryngau.”

Fis diwethaf roedd Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) wedi gwahardd swyddogion yr heddlu rhag derbyn tocynnau am ddim ar gyfer digwyddiadau fel Wimbledon, Ffeinal Cwpan yr FA a chyngherddau pop, gan ddweud ei bod yn niweidiol i enw da’r heddlu ac yn rhoi’r agraff anghywir i’r cyhoedd.

Cyn-gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Syr Paul Stephenson oedd wedi galw ar Elizabeth Filkin i wneud yr adolygiad. Fe ymddiswyddodd Syr Paul ym mis Gorffennaf yn dilyn honiadau ynglyn â chysylltiadau’r heddlu gyda Neil Wallis, cyn ddirprwy olygydd y News of the World, gafodd ei arestio’n ddiweddarach ar amheuaeth o hacio ffonau.