Gary Dobson a David Norris
Mae’r ddau ddyn gafwyd yn euog o lofruddio Stephen Lawrence wedi cael eu dedfrydu i garchar  am oes i droseddwyr ifanc heddiw.

Fe fydd yn rhaid i Gary Dobson, 36, dreulio isafswm o 15 mlynedd a dwy fis dan glo tra bod  David Norris, 35,  wedi ei ddedfrydu i 14 mlynedd a thri mis yn y carchar.

Cafwyd y ddau yn euog o lofruddio’r myfyryiwr bron i 19 mlynedd yn ôl.

Cafodd Stephen Lawrence ei drywannu mewn ymosodiad hiliol gan grŵp o lanciau croenwyn yn Eltham, de ddwyrain Llundain yn Ebrill 1993.

Gan fod Dobson a Norris yn 17 ac 16 oed pan gafodd Stephen Lawrence ei ladd, roedd y dedfrydau yn llai na fyddai oedolyn yn ei gael. Ond roedd Mr Ustus Treacy yn cymryd i ystyriaeth y ffaith fod y llofruddiaeth yn un hiliol a bod y ddau yn ymwybodol bod un ymhlith y grŵp â chyllell ac y gallen nhw ei defnyddio.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Treacy bod hyn yn lofruddiaeth oedd wedi “gadael craith ar y genedl”.

Mae wedi galw ar yr Heddlu Metropolitan i fwrw mlaen gyda’u hymchwiliad i’r llofruddiaeth.

Dywedodd Comisiynydd Scotland Yard Bernard Hogan-Howe heddiw na ddylai’r pobl eraill oedd yn gysylltiedig a llofruddiaeth Stephen Lawrence “orffwys yn dawel yn eu gwlau” wrth iddo groesawu’r dyfarniad.

Wrth i’r ddedfryd gael ei chyhoeddi roedd tad Gary Dobson wedi gweiddi: “Rhag cywilydd i bob un ohonoch chi”.

“Rhyddhad”

Yn dilyn y dyfarniad ddoe, dywedodd rhieni Stephen Lawrence eu bod yn teimlo rhyddhad, ond dywedodd ei fam, Doreen Lawrence, nad oedd yn ddiwrnod i ddathlu.

Wrth siarad tu allan i’r Old Bailey ddoe dywedodd: “Er gwaetha’r dyfarniadau, dydy heddiw ddim yn achos i ddathlu. Sut alla’i ddathlu pan mae fy mab yn gorwedd mewn bedd, pan na alla’i ei weld na siarad gydag o?

“Ni fydd y dedfrydau yma yn dod â fy mab yn ôl.

“Sut alla’i ddathlu pan rydw i’n gwybod y gallai’r diwrnod yma fod wedi dod 18 mlynedd yn ôl, petai’r heddlu heb fethu mor  druenus i ddod o hyd i’r rhai a laddodd fy mab?”

Mewn datganiad, dywedodd Neville Lawrence ei fod yn teimlo “llawenydd a rhyddhad” bod llofruddwyr ei fab wedi eu cael yn euog.

Cefndir

Roedd Dobson a Norris ymhlith pump o ddynion gafodd eu harestio gan yr Heddlu Metropolitan adeg y llofruddiaeth. Roedd y ddau frawd, Neil a Jamie Acourt a’u ffrind Luke Knight ymhlith y rhai eraill.

Ond, bryd hynny, doedd dim digon o dystiolaeth i’w cyhuddo.

Roedd teulu Stephen Lawrence wedi dwyn achos preifat yn erbyn y pump. Ond er bod achos yn erbyn tri ohonyn nhw – gan gynnwys Dobson – wedi mynd i’r llys, roedd yr achos wedi dymchwel.

Cafodd yr Heddlu Metropolitan eu beirniadu’n hallt mewn ymchwiliad cyhoeddus am y ffordd roedden nhw wedi delio â’r achos. Roedd Adroddiad Macpherson ym 1998 wedi cyhuddo’r Met o “hiliaeth gyfundrefnol”.

Cafodd achos newydd yn erbyn Dobson a Norris ei lansio yn dilyn adolygiad fforensig a ddechreuodd yn 2006.