Bydd cyplau â dau o blant yn colli allan ar £1,250 y flwyddyn erbyn 2015 yn sgil toriadau Llywodraeth San Steffan, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r arolwg gan y Sefydliad Astudiaethau Ariannol, sydd wedi ei gomisiynu gan y Sefydliad Teulu a Magu, yn dweud bod incwm teuluoedd yn mynd i grebachu oherwydd y newidiadau i systemau treth a budd-daliadau teuluoedd.

Mae disgwyl i rieni sengl, diwaith, gael eu taro waethaf gan y toriadau i’r budd-daliadau, gan golli £2,000 mewn incwm blynyddol – sef cwymp o 12%.

Mae’r adroddiad yn dangos bod y toriadau yn mynd i effeithio mwy ar gyplau sy’n gweithio, ac sydd â phlant, na chyplau sy’n gweithio ond heb blant – gan fod y garfan gyntaf yn dibynnu mwy ar daliadau lles.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r “pryder gwirioneddol” sydd eisoes yn wynebu rhieni sengl yn y frwydr o ddod o hyd i swydd yn y farchnad lafur anodd sydd ohoni, yn ogystal â fforddio costau gofal plant, heb son am y ffaith fod disgwyl i incwm cartrefi sydd â phlant ostwng 4.3% mewn termau real rhwng 2010-11 a 2015-16 oherwydd newidiadau’r Llywodraeth.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio y bydd 500,000 o blant yn disgyn i dlodi gwirioneddol rhwng 2010-11 a 2015-16 yn sgil y toriadau, gyda’r mwyafrif yn dod o deuluoedd lle mae’r plentyn ieuengaf dan bump oed.

Bydd cyplau sydd â dau o blant yn gweld gostyngiad “sylweddol mwy” na’r 0.9% o ostyngiad cyfartaledd ar draws bob cartref oherwydd y toriadau, gyda chwymp o £1,250 y flwyddyn, o’i gymharu â dim ond £215 y flwyddyn i gyplau heb blant.

Bydd teuluoedd mawr hefyd yn cael eu heffeithio’n drwm gan y toriadau, yn bennaf oherwydd y to ar lefel y taliadau lles gall bob teulu ei hawlio o 2013-14 ymlaen, yn ôl yr adroddiad.

Yn ôl Prif Weithredwr y Sefydliad Teulu a Magu, Dr Katherine Rake, mae’r ffigyrau yn datgelu’r “faich llawn ar deuluoedd â phlant sy’n ysgwyddo’r toriadau.

“Mae cael plant wastad wedi bod yn ddrud. Ond nawr mae nifer o deuluoedd sydd â phlant yn wynebu dirwy ychwanegol o dros £1,000  flwyddyn.”