Mae Next wedi dweud bod eu gwerthiant dros gyfnod y Nadolig wedi bod yn “siomedig” ond bod gwerthiant ar-lein wedi rhoi hwb i’r cwmni.
Dywedodd y grŵp, sydd â 520 o siopau, bod gwerthiant ar y stryd fawr rhwng mis Awst a Noswyl Nadolig wedi gostwng 2.7% o’i gymharu â llynedd, er bod y tywydd oer wedi amharu ar werthiant y llynedd.
Ond roedd na gynnydd o 16.9% yn eu busnes ar-lein a chatalog. Ar gyfartaledd roedd gwerthiant Next 3.1% yn uwch.
Er bod gwerthiant yn yr wythnos cyn y Nadolig wedi bod yn brysur, roedd gwerthiant ym mis Tachwedd a Rhagfyr yn “siomedig” meddai’r cwmni.
Ond roedd siopwyr wedi oedi tan ar ôl y Nadolig pan roedd Next wedi cynnal sêl a oedd wedi gwerthu’n dda.
Mae’r grŵp yn amcangyfrif y bydd eu helw yn £565 miliwn, o’i gymharu â £551 miliwn y llynedd.