Cafodd dau ddyn eu lladd heddiw wrth i wyntoedd cryfion yn hyrddio 100 milltir yr awr daro’r DU.

Cafodd dyn yn ei bumdegau ei ladd yng Nghaint ar ôl i goeden gwympo ar ei fan tra roedd yn eistedd ynddo. Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn dod o Tonbridge a’i fod wedi marw’n syth. Mae’n debyg bod dyn arall oedd yn y fan gydag o wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf.

Cafodd  aelod o griw llong dancer ei ladd pan darodd ton enfawr yn erbyn y llong oddi ar arfordir de Ddyfnaint ar y ffin â Chernyw. Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Plymouth ond bu farw’n ddiweddarach.

Roedd gwyntoedd cryfion wedi achosi trafferthion i filoedd o deithwyr oedd yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Roedd coed wedi cwympo ar gledrau rheilffyrdd a gwifrau trydan, loriau wedi troi drosodd ar ffyrdd brysur a rhybuddion am lifogydd ar nifer o afonydd yn enwedig yn Nyffryn Conwy.

Cafodd porthladd Dover hefyd ei gau rhwng 10.30am a 1.20pm oherwydd y tywydd garw.