Stephen Lawrence
Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o lofruddio Stephen Lawrence, bron i 19 mlynedd ers iddo farw.

Yn yr Old Bailey, cafwyd Gary Dobson, 36 a David Norris, 35, yn euog.

Cafodd Stephen Lawrence ei ladd mewn ymosodiad hiliol gan grŵp o lanciau yn Eltham, de ddwyrain Llundain yn Ebrill 1993.

Daw’r dyfarniad yn dilyn achos llys sydd wedi para am bump wythnos. Roedd tystiolaeth yn cysylltu’r ddau i lofruddiaeth Stephen Lawrence wedi ei ddangos i’r rheithgor yn ystod yr achos. Cafwyd hyd i fymryn o waed Stephen ar siaced Dobson, tra bod ychydig o’i wallt wedi ei ddarganfod ar drowsus Norris.

Roedd y ddau wedi honi eu bod nhw adref ar noson yr ymosodiad.

Fe fydd y barnwr Mr Ustus Treacy yn dedfrydu’r ddau yfory. Mae disgwyl iddyn nhw wynebu carchar am oes.

‘Nid dyma ddiwedd y ffordd’

Heddiw dywedodd swyddogion Scotland Yard mai “nid dyma ddiwedd y ffordd” ac y byddan nhw’n parhau i geisio dod â gweddill y rhai fu’n gyfrifol am ladd Stephen Lawrence o flaen eu gwell.

Dywed llygad dystion bod mwy na dau wedi bod yn gyfrifiol am yr ymosodiad – roedd pump neu chwech wedi amgylchynu’r myfyriwr 18 oed.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd dros dro Scotland Yard Cressida Dick eu bod yn cydnabod bod pump o bobl wedi bod yn rhan o’r ymosodiad ar y noson fu farw Stephen Lawrence, ac os bydd tystiolaeth newydd yn dod i law, fe fyddan nhw’n ymateb i hynny.

“Dydan ni ddim yn gweld hyn fel diwedd y ffordd,” meddai.

Cefndir

Roedd Dobson a Norris ymhlith pump o ddynion gafodd eu harestio gan yr Heddlu Metropolitan adeg y llofruddiaeth. Roedd y ddau frawd, Neil a Jamie Acourt a’u ffrind Luke Knight ymhlith y rhai eraill.

Ond, bryd hynny, doedd dim digon o dystiolaeth i’w cyhuddo.

Roedd teulu Stephen Lawrence wedi dwyn achos preifat yn erbyn y pump. Ond er bod achos yn erbyn tri ohonyn nhw – gan gynnwys Dobson – wedi mynd i’r llys, roedd yr achos wedi dymchwel.

Cafodd yr Heddlu Metropolitan eu beirniadu’n hallt mewn ymchwiliad cyhoeddus am y ffordd roedden nhw wedi delio â’r achos. Roedd Adroddiad Macpherson ym 1998 wedi cyhuddo’r Met o “hiliaeth gyfundrefnol”.

Cafodd achos newydd yn erbyn Dobson a Norris ei lansio yn dilyn adolygiad fforensig a ddechreuodd yn 2006.