Mae ditectifs yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod ar stad y Frenhines yn Sandringham yn Norfolk.

Cafwyd hyd i weddillion y corff gan rhywun yn cerdded gyda’u ci tua 4pm ar Ddydd Calan, tua dwy filltir o bentref Anmer ar stad Sandringham.

Cafodd y corff ei ddarganfod mewn coedwig ar dir fferm. Mae’r Frenhines a Dug Caeredin yn aros ar y stad ar hyn o bryd ar ôl treulio cyfnod y Nadolig yno gyda’u teulu.

Dywed yr heddlu eu bod yn edrych ar restrau o bobl sydd wedi mynd ar goll yn ogystal â achosion mwy lleol er mwyn gweld os oes na gysylltiad. Mae’n debyg bod y corff wedi bod yno ers peth amser ac fe fydd gwaith patholegol yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw er mwyn ceisio darganfod mwy.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff dynes sydd wedi ei ddarganfod ond mae nhw wedi dweud nad oes rhagor o fanylion ar hyn o bryd.