Bu’n rhaid i fanciau Prydain dalu mwy na £160 miliwn mewn iawndal i gwsmeriaid y llynedd ar ôl cael eu herlyn gan reoleiddwyr ariannol.

Barclays oedd y banc gwaethaf o’u plith, mewn blwyddyn a welodd y iawndal bu’n rhaid i fanciau ei dalu yn treblu o £62 miliwn yn 2010.

Yn ôl y gwaith ymchwil gan y cwmni cyfreithiol Freshfields, bu’n rhaid i’r banc dalu £59 miliwn i gwsmeriaid adwerthu, a £7.7 miliwn o ddirwy am fethiannau wrth labelu rhai cronfeydd yn rai “cytbwys” a “gofalus”.

Cafodd banc HSBC y ddirwy fwyaf erioed iddyn nhw hefyd, gwerth £10.5 miliwn, am gam-werthu bondiau buddsoddiad i gwmseriaid hŷn.

Bu’n rhaid i’r banciau dalu o leia’ £1 miliwn o iawndal mewn o leia’ pump achos.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredu yr Awdurdod Rheoleiddio Ariannol, Tracey McDermott wrth bapur newydd y Financial Times heddiw eu bod wedi rhoi rhai “dirwyon sylweddol ar rai cwmniau mawr a ddylai fod yn gwybod yn well.

“Mae gan y cwmniau mwyaf y potensial i niweidio rhannau helaethach o’r gymuned na’r rhai llai,” meddai.

Cafodd rhai o’r dirwyon mwyaf eleni eu rhoi i gwmniau rheoli cyfoeth, a chwmniau a fethodd wrth rannu asedau cleientiaid oddi wrth arian y cwmni.