Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r rhai gafodd eu lladd ar Ddydd Calan ar ôl i ddyn saethu ei hun ar ôl lladd tair dynes.

Dywed Heddlu Durham bod Michael Atherton, 42, wedi saethu ei bartner Susan McGoldrick, 47, ei chwaer Alison Turbull, 44 a’i nith Tanya Turbull, 24, cyn saethu ei hun.

Cafwyd hyd i’r cyrff yn agos at ei gilydd ar lawr isaf y tŷ yn Heol Greenside, Horden, Peterlee ar ôl i’r heddlu gael eu galw am 11.45pm nos Sul.

Mae’r heddlu’n credu bod y teulu wedi bod i’r dafarn neu am bryd o fwyd cyn dychwelyd i’r tŷ.

Mae’n debyg bod merch Susan McGoldrick, Laura, 19 oed, wedi llwyddo i ddianc drwy ffenestr mewn ystafell wely a galw am help gan gymdogion.

Dywed Heddlu Durham eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â’r teulu o’r blaen. Yn 2008 cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn honiadau bod Michael Atherton yn bwriadu gwneud niwed i’w hun.

Mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu gan Heddlu Durham oherwydd eu cysylltiad blaenorol gyda’r teulu.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod un o breswylwyr y tŷ yn berchen ar drwydded i gadw gynnau.

Roedd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar y pedwar ddoe ac mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu rhyddhau heddiw.