Mae’r heddlu yn ymchwilio i honiadau fod dyn wedi ceisio gwerthu esgyrn a dannedd morfil sberm, oedd wedi marw ar draeth, ar-lein.

Daethpwyd o hyd i’r morfil ar draeth Old Hunstanton yng ngogledd Norfolk ar noswyl Nadolig. Diflannodd ei ddannedd a’i ên o fewn oriau iddo ymddangos.

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio wedi i ddyn o’r ardal greu tudalen ar Facebook yn hysbysebu darnau o gorff y morfil.

Mae’r heddlu wedi annog pobol i beidio â chyffwrdd y morfil, na chaniatáu i’w cŵn gyffwrdd ag ef. Mae’r morfil yn pydru ar y tywod.

Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd a’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn rhybuddio pobol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr i gadw draw o’r ardal.

“Fe allai safon y dŵr gael ei effeithio. Os ydych chi’n teimlo’n sâl ar ôl defnyddio’r dŵr holwch am gyngor meddygol os gwelwch yn dda,” meddai’r neges.

Mae morfilod sberm yn rhywogaeth brin ac mae tynnu unrhyw ran o’u cyrff er mwyn eu gwerthu yn anghyfreithlon.