Mae dyn wedi ei gyhuddo ar ôl cael ei atal gan yr heddlu wrth yrru ambiwlans oedd wedi ei ddwyn.

Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans toc ar ôl 3.30am ar Ddydd Calan yn dilyn adroddiad fod rhywun wedi dwyn un o’u ceir ymateb cyflym o Valley Road, Clacton, Essex.

Roedd signal GPS yr Honda Accord yn dangos ei fod yn teithio ar hyd yr A12 i gyfeiriad y de.

“Cafodd y car ei atal ar ôl Cyffordd 16,” meddai Heddlu Essex. “Cafodd darn o’r ffordd ei gau am 30 munud wrth i’r car gael ei adfer ac wrth i falurion gael eu clirio oddi ar y ffordd.”

Cafodd y sgaffaldydd Daniel Glover, 26, o Mile End, dwyrain Llundain, ei arestio a’i gyhuddo o gymryd cerbyd, gyrru dan ddylanwad alcohol, gyrru heb yswiriant ac atal heddwas.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Chelmsford heddiw.