Mae’r heddlu yn drwgdybio mai saethu sy’n gyfrifol wedi iddyn nhw ddod o hyd i bedwar corff mewn tŷ neithiwr.

Daethpwyd o hyd i gorff un dyn a tair merch yn y tŷ ar Greenside Avenue, Peterlee toc cyn 11.45pm ddoe, meddai Heddlu Durham.

Dywedodd llefarydd fod y pedwar yn perthyn neu’n nabod ei gilydd ac nad oedden nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r marwolaethau.

Daethpwyd o hyd i wn hela wrth gorff y dyn.

Roedd Heddlu Durham wedi derbyn galwad yn rhoi gwybod iddyn nhw fod sawl person wedi eu saethu y tu mewn i’r tŷ. Roedd y cyrff mewn gwahanol ystafelloedd yn y tŷ.

Cadarnhaodd parafeddygon fod y pedwar wedi marw yn y fan a’r lle.

Y gred yw bod y dyn yn ei 40au a bod o leiaf un o’r merched yn ei harddegau.

Mae pumed ddynes, sy’n perthyn i un o’r dioddefwyr, yn derbyn triniaeth am glwyfau gwn hela yn Ysbyty North Tees, Stockton.

Daethpwyd o hyd iddi mewn tŷ arall yn y stryd yn fuan ar ôl i’r heddlu gyrraedd Greenside Avenue. Dywedodd Heddlu Durham nad oedd yr anafiadau yn peryglu ei bywyd.

Mae’r heddlu yn cynnal ymchwiliad fforensig yn y tŷ ar hyn o bryd.