Fernando Torres
Roedd yna ddiwrnod rhyfeddol ar y farchnad bêl-droed ddoe gyda dwy record Brydeinig yn cael eu torri o fewn oriau i’w gilydd.

Ar ddiwrnod ola’r cyfnod trosglwyddo, fe gododd cyfanswm y gwario i fwy na £200 miliwn wrth i Chelsea a Lerpwl fynd ar y sbri.

Ar y funud ola’, fe lwyddodd Chelsea i arwyddo’r Sbaenwr, Fernando Torres, o Lerpwl am record Brydeinig newydd o £50m.

Gyda Torres yn gadael Anfield, fe dalodd Lerpwl £35m am Andy Carroll o Newcastle Utd – y pris mwya’ erioed am chwaraewr o wledydd Prydain.

Mae hynny’n ychwanegu ymosodwr newydd arall Lerpwl, Luis Suarez, a ymunodd o Ajax am £22.8m.

Mae Chelsea hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo amddiffynnwr Benfica, David Luiz am £21.3m.

Y gwario mwya’ erioed

Mae’r trosglwyddiadau yma wedi cyfrannu at y gwariant mwyaf erioed gan glybiau ers dechrau’r drefn o gyfnodau trosglwyddo penodol.

Dim ond £30m a gafodd ei wario gan glybiau’r Uwch Gynghrair yn ystod mis Ionawr y llynedd ond mae gwariant eleni wedi cyrraedd £214m, sy’n torri’r record cynt o £181m yn 2009.

Mae’r prisiau y mae clybiau Lloegr yn eu talu lawer yn na chlybiau o wledydd eraill yn Ewrop.

Y pris ucha’ am chwaraewr yn Sbaen yn ystod y cyfnod trosglwyddo oedd £6 miliwn a £12 miliwn oedd y pris ucha’ yn yr Almaen.